Numbers 20:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a'u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o'r mynydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Moses yn cymryd gwisgoedd offeiriadol Aaron, ac yn gwisgo Eleasar gyda nhw. A dyma Aaron yn marw yno, ar ben y mynydd. Wedyn dyma Moses ac Eleasar yn mynd yn ôl i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd Moses y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar, a bu Aaron farw yno ar ben y mynydd.