Numbers 21:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwrandawodd yr ARGLWYDD ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a'u difrododd hwynt, a'u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn ateb eu gweddi nhw, a dyma nhw'n concro'r Canaaneaid a dinistrio eu trefi nhw'n llwyr. A dyma nhw'n galw'r lle yn Horma (sef ‛Dinistr‛).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.