Numbers 22:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth DUW at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i'th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Duw yn dod at Balaam eto'r noson honno, a dweud wrtho y tro yma, “Os ydy'r dynion yma wedi dod i dy nôl di, dos gyda nhw. Ond paid gwneud dim byd ond beth dw i'n ddweud wrthot ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, "Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti."