Numbers 22:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD adael i Balaam weld yr angel yn sefyll yn y ffordd yn chwifio ei gleddyf. A dyma fe'n ymgrymu a mynd ar ei wyneb ar lawr o flaen yr angel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.