Numbers 22:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a'u gyrru hwynt o'r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Plîs wnei di ddod a'i melltithio nhw i mi. Maen nhw'n rhy gryf i mi ddelio gyda nhw. Ond falle wedyn y bydda i'n gallu eu gyrru nhw allan o'r wlad. Achos mae pwy bynnag wyt ti'n ei fendithio yn llwyddo, a pwy bynnag wyt ti'n ei felltithio yn syrthio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio."