Numbers 23:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‛Cae'r Gwylwyr‛) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe'n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.