Numbers 23:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, "Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?"