Numbers 23:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr ARGLWYDD, hynny a wnaf fi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r ARGLWYDD yn ddweud?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond atebodd Balaam ef, "Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?"