Numbers 24:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr ARGLWYDD fendithio Israel; nid aeth efe, megis o'r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua'r anialwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hyn roedd Balaam yn gweld fod yr ARGLWYDD am fendithio Israel. Felly wnaeth e ddim mynd ati i ddewino fel o'r blaen, dim ond mynd yn syth i edrych allan dros yr anialwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Balaam fod yr ARGLWYDD yn dymuno bendithio Israel, nid aeth i arfer dewiniaeth, fel cynt; yn hytrach, trodd ei wyneb tua'r diffeithwch.