Numbers 24:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y'th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a'u bendithiaist y tair gwaith hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y brenin Balac yn wyllt gynddeiriog gyda Balaam. Curodd ei ddwylo'n wawdlyd, a dweud wrtho, “Gwnes i dy alw di yma i felltithio fy ngelynion i! A dyma ti'n gwneud dim byd ond bendithio! Ti wedi eu bendithio nhw dair gwaith!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna digiodd Balac wrth Balaam; curodd ei ddwylo, a dywedodd wrtho, "Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond yr wyt ti wedi eu bendithio'r teirgwaith hyn.