Numbers 24:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyddiau diwethaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A nawr dw i'n mynd yn ôl adre at fy mhobl. Ond cyn i mi fynd, gad i mi dy rybuddio di beth mae pobl Israel yn mynd i'w wneud i dy bobl di yn y dyfodol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, fe af at fy mhobl fy hun; tyrd, ac fe ddywedaf wrthyt beth a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyfodol."