Numbers 24:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd gwrandawydd geiriau DUW, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad, yn gwybod beth mae'r Goruchaf yn ei wneud, ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo. Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac sy'n clywed geiriau Duw, yn gwybod meddwl y Goruchaf, yn cael gweledigaeth gan yr Hollalluog, ac yn syrthio i lawr, a'i lygaid wedi eu hagor: