Numbers 24:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dw i'n ei weld, ond fydd hyn ddim nawr; dw i'n edrych arno, ond mae'n bell i ffwrdd. Bydd seren yn dod allan o Jacob, teyrnwialen yn codi yn Israel. Bydd yn dinistrio ffiniau pellaf Moab a'r mynyddoedd ble mae plant Seth yn byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'i gwelaf ef, ond nid yn awr; edrychaf arno, ond nid yw'n agos. Daw seren allan o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel; fe ddryllia dalcen Moab, a difa holl feibion Seth.