Numbers 24:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a'i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Israel yn gorffwys fel llew, neu lewes — pwy sy'n meiddio tarfu arno? Bydd y sawl sy'n dy fendithio yn profi bendith, a'r sawl sy'n dy felltithio dan felltith!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gryma, fe orwedd fel llew, neu lewes; pwy a'i deffry? Bydded bendith ar bawb a'th fendithia, a melltith ar bawb a'th felltithia."