Numbers 27:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni bydd brodyr i'w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w gâr nesaf iddo o'i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os na fydd gan ei dad frodyr, rhowch ei etifeddiaeth i'w berthynas agosaf, er mwyn iddo ef gael meddiant ohono.'" Bu hyn yn ddeddf a chyfraith i bobl Israel, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.