Numbers 29:39 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn a wnewch i'r ARGLWYDD ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a'ch offrymau gwirfodd, gyda'ch offrymau poeth, a'ch offrymau bwyd, a'ch offrymau diod, a'ch offrymau hedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Mae'r offrymau yma i gyd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD adeg y Gwyliau blynyddol. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau eraill i gyd — offrymau i wneud addewid ac offrymau gwirfoddol, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr, a'r offrymau o rawn, yr offrymau o ddiod, a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Dyma'r hyn yr ydych i'w offrymu i'r ARGLWYDD ar eich gwyliau penodedig, yn ychwanegol at eich offrymau adduned a'ch offrymau gwirfodd, eich poethoffrymau, eich bwydoffrymau, eich diodoffrymau, a'ch heddoffrymau.'"