Numbers 3:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,