Numbers 3:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
am mai fi piau pob mab cyntaf. Ro'n i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD."