Numbers 3:38 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua'r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a'i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a'r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb oedd marwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a ddi'n agos i'w roi i farwolaeth.