Numbers 30:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o'i holl addunedau, a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr ARGLWYDD iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy ei thad yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi, am fod ei thad wedi dweud yn wahanol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os bydd ei thad yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, ni fydd unrhyw adduned nac ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi gan i'w thad ei gwahardd.