Numbers 30:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a'r ARGLWYDD a faddau iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy ei gŵr yn dweud yn wahanol pan mae'n clywed am y peth, dydy'r addewidion wnaeth hi ddim yn ddilys. Bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os bydd ei gu373?r yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, y mae i ddiddymu ei hadduned a'i hymrwymiad byrbwyll, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.