Numbers 31:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac arhoswch chwithau o'r tu allan i'r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a'r seithfed dydd, chwi a'ch carcharorion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy bynnag sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd corff marw, rhaid i chi aros tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod. A rhaid i chi a'r merched dych chi wedi eu cymryd yn gaeth fynd drwy'r ddefod o buro eich hunain ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae pob un ohonoch sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd chorff rhywun a laddwyd, i aros y tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod; ar y trydydd a'r seithfed dydd yr ydych i'ch glanhau eich hunain a'r carcharorion sydd gyda chwi.