Numbers 31:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, o'r eidionau, o'r asynnod, ac o'r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i'r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna o'r hanner arall, sef siâr pobl Israel, rhaid cymryd un o bob hanner cant o'r caethion, y gwartheg, yr asynnod, a'r defaid. Un o bob hanner cant o'r anifeiliaid i gyd, i'w cyflwyno i'r Lefiaid sy'n gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, o'r hanner sy'n eiddo i bobl Israel, cymer un o bob hanner cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, defaid neu anifeiliaid eraill, a'u rhoi i'r Lefiaid sy'n gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD."