Numbers 31:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses yn rhoi'r siâr oedd i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd Moses y dreth, sef yr offrwm i'r ARGLWYDD, i Eleasar yr offeiriad, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.