Numbers 31:47 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, ac o'r anifeiliaid, ac a'u rhoddes hwynt i'r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr ARGLWYDD; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn cymryd un o bob hanner cant o siâr pobl Israel, a'i roi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am y Tabernacl i'r ARGLWYDD, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O gyfran yr Israeliaid, cymerodd Moses un o bob hanner cant o ddynion ac o anifeiliaid, a'u rhoi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.