Numbers 31:50 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i'r ARGLWYDD, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dŷn ni wedi dod ag offrwm i'r ARGLWYDD o'r tlysau aur wnaethon ni eu casglu — breichledau, modrwyau, clustdlysau a chadwyni. Mae hyn i wneud pethau'n iawn rhyngon ni â Duw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyflwynodd pob un ohonom yr hyn a gafodd, addurniadau aur, cadwynau, breichledau, modrwyau, clustlysau, a thorchau, yn offrwm i'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud cymod drosom ein hunain gerbron yr ARGLWYDD."