Numbers 32:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a gwnaeth iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd — nes roedd y genhedlaeth wnaeth y drwg wedi mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.