Numbers 32:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i'w lle eu hun; a'n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi eu hadeiladu, fel bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
caiff ein plant fyw yn y dinasoedd caerog, yn ddiogel rhag trigolion y wlad, tra byddwn ninnau'n cymryd arfau, yn arwain pobl Israel, ac yn eu tywys i'w lle eu hunain.