Numbers 32:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i'r rhyfel o flaen yr ARGLWYDD, a darostwng y wlad o'ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os bydd y dynion o lwythau Gad a Reuben yn croesi'r Iorddonen gyda chi i ymladd ym mrwydrau'r ARGLWYDD, pan fyddwch chi wedi concro'r wlad rhaid i chi roi tir Gilead iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrthynt, "Os tylwyth Gad a thylwyth Reuben gyda chwi dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a phob un ohonynt yn arfog ar gyfer rhyfel, ac os byddant yn darostwng y wlad o'ch blaen, yna rhowch wlad Gilead iddynt yn etifeddiaeth;