Numbers 32:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a'i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses yn rhoi'r tir yma i lwythau Gad a Reuben, a hanner llwyth Manasse fab Joseff: tiriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, a tiriogaeth Og, brenin Bashan. Cawson nhw'r tir i gyd gyda'r trefi a'r tiroedd o'u cwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.