Numbers 33:52 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o'ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;