Numbers 33:54 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i'r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i'r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y claniau drwy fwrw coelbren. Mae faint o dir mae pob clan yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint y clan — pa mor fawr neu fach ydy e. Ond mae'r lleoliad yn dibynnu ar ble mae'r coelbren yn syrthio. Mae i'w rannu rhwng llwythau'r hynafiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn l llwythau eich hynafiaid.