Numbers 33:55 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o'ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os na wnewch chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad, fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi — fel llwch yn eich llygaid neu ddraenen yn eich ochr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;