Numbers 35:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed, a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd â'r olew cysegredig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i'r bobl amddiffyn y lladdwr rhag y perthynas agosaf sydd am ddial arno. A rhaid anfon y lladdwr i fyw yn y dref loches agosaf. Bydd rhaid iddo aros yno nes bydd yr archoffeiriad, gafodd ei eneinio gyda'r olew cysegredig, wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n l yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd 'r olew cysegredig.