Numbers 35:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo'r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd chwech o'r trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid yn drefi lloches, i rywun sydd wedi lladd person arall trwy ddamwain allu dianc yno. Rhaid i chi roi pedwar deg dwy o drefi eraill i'r Lefiaid —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"O'r dinasoedd a rowch i'r Lefiaid, bydd chwech yn ddinasoedd noddfa, lle caiff y lleiddiaid ffoi; yn ychwanegol at y rhain, rhowch iddynt bedwar deg a dwy o ddinasoedd.