Numbers 36:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a'i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond petai un ohonyn nhw'n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw yn mynd i'r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, os priodant hwy dynion o lwythau eraill ymysg yr Israeliaid, yna bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli o lwyth ein hynafiaid, ac yn cael ei throsglwyddo at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt, a bydd ein hetifeddiaeth ni yn dlotach o'r herwydd.