Numbers 4:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn rhaid iddyn nhw gymryd gweddill yr offer sy'n cael ei ddefnyddio yn y cysegr, a'u rhoi nhw mewn lliain glas. Rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod amdanyn nhw wedyn, a'i gosod ar bolyn i'w cario.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerant yr holl lestri a ddefnyddir yng ngwasanaeth y cysegr, a'u rhoi mewn lliain glas, a rhoi hwnnw mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'u gosod ar y trosolion.