Numbers 4:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddant arni ei holl lestri, â'r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, ie, holl lestri'r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gosod ei hoffer i gyd arni — y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
cyn gosod arni'r holl lestri a ddefnyddir yn y gwasanaeth, sef y pedyll tn, y ffyrch, y rhawiau, y cawgiau, a holl lestri'r allor; yna rhoddant orchudd o grwyn morfuchod drosti, a gosod y polion yn eu lle.