Numbers 4:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddarffo i Aaron ac i'w feibion orchuddio'r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno'r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i'w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â'r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Aaron a'i feibion orffen rhoi'r gorchudd dros y cysegr a'i holl ddodrefn, a'r gwersyll yn barod i gychwyn, daw meibion Cohath i'w cludo, ond ni fyddant yn cyffwrdd 'r pethau cysegredig, rhag iddynt farw. Meibion Cohath sydd i gludo'r pethau yn ymwneud phabell y cyfarfod.