Numbers 4:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a'r arogl‐darth peraidd, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i fod yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, y grawn ar gyfer yr offrwm dyddiol, a'r olew eneinio. Ond mae hefyd yn gyfrifol am y Tabernacl i gyd, a phopeth sydd ynddo, a'r cysegr a'i holl ddodrefn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri."