Numbers 4:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wrth orchymyn Aaron a'i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i'w cadw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aaron a'i feibion sydd i oruchwylio'r gwaith mae'r Gershoniaid yn ei wneud — beth sydd i'w gario, ac unrhyw beth arall sydd i'w wneud. Nhw sydd i ddweud yn union beth ydy cyfrifoldeb pawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd holl wasanaeth y Gersoniaid, boed yn gludo neu unrhyw orchwyl arall, dan awdurdod Aaron a'i feibion; eu cyfrifoldeb hwy fydd gofalu am yr holl gludo.