Numbers 4:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a'r cwpanau, a'r ffiolau, a'r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros fwrdd yr ARGLWYDD, ac yna gosod arno y platiau a'r dysglau, y powlenni a'r jygiau sy'n cael eu defnyddio i dywallt yr offrwm o ddiod. Ac mae'r bara i aros arno bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna y maent i gymryd lliain arall o sidan glas, a'i daenu dros fwrdd y bara gosod, a rhoi ar y bwrdd y platiau a'r dysglau, y ffiolau a'r costrelau i dywallt y diodoffrwm; bydd y bara yn aros bob amser ar y bwrdd.