Numbers 5:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
rhaid i'r gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd, na rhoi thus arno am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod â'r drwg i'r amlwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
deued 'i wraig at yr offeiriad, a chyflwyno offrwm drosti, sef degfed ran o effa o flawd haidd; nid yw i dywallt olew drosto na rhoi thus ynddo, oherwydd bwydoffrwm dros eiddigedd yw, a bwydoffrwm i goffu camwedd.