Numbers 5:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â'r dwfr sydd yn peri'r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a'r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Os ydy'r wraig wedi gwneud ei hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr yn gwneud iddi ddiodde'n chwerw. Bydd hi'n methu cael plant byth eto, a bydd ei henw'n felltith yng ngolwg y bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bu i'r wraig ei halogi ei hun a bod yn anffyddlon i'w gu373?r, bydd y du373?r, wedi iddi ei yfed, yn achosi melltith ac yn peri artaith chwerw iddi. Bydd ei chroth yn chwyddo a'i chlun yn pydru, a bydd y wraig yn felltith ymhlith ei phobl.