Numbers 6:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dyged yn offrwm drosto i'r ARGLWYDD, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a cyflwyno'r offrymau canlynol i'r ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd o'i le arno yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,