Numbers 6:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD: sanctaidd yw hyn i'r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bydd yr offeiriad yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; bydd y rhain, ynghyd 'r frest a chwifir a'r glun a offrymir, yn gyfran sanctaidd ar gyfer yr offeiriad. Yna caiff y Nasaread yfed gwin.