Numbers 6:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
rhaid iddyn nhw ymwrthod yn llwyr â gwin a diod feddwol. Rhaid iddyn nhw beidio yfed finegr wedi ei wneud o win, na hyd yn oed yfed sudd grawnwin. A rhaid iddyn nhw beidio bwyta grawnwin na rhesins.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae i gadw oddi wrth win a diod feddwol; nid yw i yfed ychwaith ddim a wnaed o rawnwin neu o ddiod feddwol, ac nid yw i fwyta'r grawnwin, boed yn ir neu'n sych.