Numbers 6:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni'r dyddiau yr ymneilltuodd efe i'r ARGLWYDD, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid iddyn nhw hefyd beidio torri eu gwalltiau yn y cyfnod yma, am eu bod wedi cysegru eu hunain i'r ARGLWYDD. Rhaid iddyn nhw adael i'w gwallt dyfu'n hir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Trwy gydol cyfnod ei adduned i fod yn Nasaread, nid yw i eillio ei ben; bydd yn gadael i gudynnau ei wallt dyfu'n hir, a bydd yn sanctaidd nes iddo orffen ymgysegru i'r ARGLWYDD.