Numbers 6:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy rhywun yn syrthio'n farw wrth ymyl un ohonyn nhw, ac yn achosi i'w ben gael ei lygru, rhaid aros saith diwrnod, ac yna siafio'r pen ar ddiwrnod y puro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Os bydd rhywun yn marw'n sydyn wrth ei ymyl, a phen y Nasaread yn cael ei halogi, yna y mae i eillio ei ben ar y dydd y glanheir ef, sef y seithfed dydd.