Numbers 7:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[12-83] Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod: [Diwrnod] — [Llwyth] — [Arweinydd] 1af — Jwda — Nachshon fab Aminadab 2il — Issachar — Nethanel fab Tswár 3ydd — Sabulon — Eliab fab Chelon 4ydd — Reuben — Elisur fab Shedeŵr 5ed — Simeon — Shelwmiel fab Swrishadai 6ed — Gad — Eliasaff fab Dewel 7fed — Effraim — Elishama fab Amihwd 8fed — Manasse — Gamaliel fab Pedatswr 9fed — Benjamin — Abidan fab Gideoni 10fed — Dan — Achieser fab Amishadai 11eg — Asher — Pagiel fab Ochran 12fed — Nafftali — Achira fab Enan Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram. Roedd y ddau yn llawn o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd i'w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram. Roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ychen, pum hwrdd, pum bwch gafr, a pum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.